Ar gyfer yr erthygl amserol hon rwyf wedi ymuno â Evie Rogers, sydd ar hyn o bryd yn ymgymryd â doethuriaeth mewn firws, llid ac imiwnoleg ym Mhrifysgol Southampton. Rydym wedi llunio rhestr o faetholion gyda’n gilydd, sy’n werth eu hystyried yn ystod y pandemig firysol hwn. Evie: “Ni allwn ni adeiladu imiwnedd i’r firws hwn heb ei ddal, ond gallwn sicrhau bod gan ein cyrff yr offer angenrheidiol i ddelio ag ef os ydyn ni’n ei ddal!”
Dyma’r rhestr o faetholion y gallech fod am eu sicrhau fel rhan o’ch diet, eich trefn ddyddiol a’r rhesymau pam.
Fitamin C
- Mae fitamin C yn gwella swyddogaeth celloedd gwyn y gwaed (celloedd imiwnedd) a’u cynhyrchiant o gemegau sy’n dwysáu ymateb y corff i firws.
- Mae hefyd yn helpu i gynyddu nifer y celloedd imiwnedd yn y corff.
- Ffynonellau: ffrwythau sitrws, llus, mwyar duon, mefus, sbigoglys, cêl a brocoli.
- Yn bwysig, mae Fitamin C yn hydoddi mewn dŵr felly bydd yr hyn na fyddwch yn ei ddefnyddio mewn diwrnod yn cael ei fflysio lawr y tŷ bach! Mae’n hanfodol, felly, i gadw lefelau wedi’u llenwi yn llawn dop bob dydd.
Zinc
- Mae angen zinc ar gyfer “gallu lladd” celloedd lladd naturiol yn erbyn celloedd sydd wedi’u heintio â firysau.
- Mae llawer o gemegau sy’n actifadu imiwnedd yn dibynnu ar ffactorau sy’n actifadu zinc ar gyfer eu cynhyrchu.
- Mae ffynonellau’n cynnwys ffa, dofednod, grawn cyflawn a llond dwrn o hadau pwmpenni
Fitamin D3
- Mae’r fitamin hwn yn rhan annatod o swyddogaeth gyffredinol ac iach y celloedd imiwnedd yn y corff.
- Mae diffyg fitamin D wedi’i gysylltu â chynnydd yn y risg o haint.
- Gan ein bod fel arfer yn amsugno fitamin D o’r haul, yn ystod misoedd y gaeaf, gall atchwanegiad fod yn ddefnyddiol.
- Ffynonellau: yr haul ac atchwanegiadau!
Sinsir
- Mae Sinsir yn wrthocsidiol ac yn helpu i reoleiddio’r ymateb imiwnedd.
- Mae wedi dangos ei bod yn cynyddu lefelau IgM, a all arwain at ymateb gwrthgorff cryfach yn erbyn heintiau.
- Mae te lemwn a sinsir yn gyfuniad gwych gan ei fod yn rhoi ychydig o fitamin C i chi hefyd.
Dyma rai dulliau naturiol o gefnogi system imiwnedd iach. Mae system imiwnedd iach yn gallu ymladd heintiau a firysau yn well. Nid yw hyn yn cymryd lle meddyginiaeth a dylech bob amser ymgynghori â’ch meddyg teulu, yn enwedig os ydych yn feichiog. Ychydig o awgrymiadau yw’r rhain i fynd ar hyd arferion hylendid priodol. Os ydych chi’n poeni eich bod wedi dal firws, yna ewch i wefan y GIG – https://www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/.
Yr hyn rydym yn ei argymell yw sicrhau bod eich oergell a’ch rhewgelloedd yn llawn ffrwythau a llysiau er mwyn cefnogi’ch system imiwnedd. Gallai atchwanegiadau fod yn ddefnyddiol yn yr achos hwn. Gallai chwistrellau fitamin fod yn arbennig o ddefnyddiol i’r henoed.